Y Salmau 103 BCN

I Ddafydd.

1 Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.

2 Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:

3 ef sy'n maddau fy holl gamweddau,yn iacháu fy holl afiechyd;

4 ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll,ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd;

5 ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiaui adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.

6 Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawndera barn i'r holl rai gorthrymedig.

7 Dysgodd ei ffyrdd i Moses,a'i weithredoedd i blant Israel.

8 Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.

9 Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,nac yn meithrin ei ddicter am byth.

10 Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.

11 Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear,y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;

12 cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewiny pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.

13 Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.

14 Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,yn cofio mai llwch ydym.

15 Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—

16 pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna,ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach.

17 Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldebar y rhai sy'n ei ofni,a'i gyfiawnder i blant eu plant,

18 i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod,yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau.

19 Gosododd yr ARGLWYDD ei orsedd yn y nefoedd,ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth.

20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion,y rhai cedyrn sy'n gwneud ei air,ac yn ufuddhau i'w eiriau.

21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd,ei weision sy'n gwneud ei ewyllys.