Y Salmau 107 BCN

LLYFR 5

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.

2 Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD,y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,

3 a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd,o'r dwyrain a'r gorllewin,o'r gogledd a'r de.

4 Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;

5 yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,ac yr oedd eu nerth yn pallu.

6 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd hwy o'u hadfyd;

7 arweiniodd hwy ar hyd ffordd unioni fynd i ddinas i fyw ynddi.

8 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

9 Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,a llenwi'r newynog â phethau daionus.

10 Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,yn gaethion mewn gofid a haearn,

11 am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw,a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12 Llethwyd eu calon gan flinder;syrthiasant heb neb i'w hachub.

13 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

14 daeth â hwy allan o'r tywyllwch dudew,a drylliodd eu gefynnau.

15 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

16 Oherwydd torrodd byrth pres,a drylliodd farrau heyrn.

17 Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurusa'u camwedd fe'u cystuddiwyd;

18 aethant i gasáu pob math o fwyd,a daethant yn agos at byrth angau.

19 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

20 anfonodd ei air ac iachaodd hwy,a gwaredodd hwy o ddistryw.

21 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

22 Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.

23 Aeth rhai i'r môr mewn llongau,a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;

24 gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,a pheri i'r tonnau godi'n uchel.

26 Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,a phallodd eu dewrder yn y trybini;

27 yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,ac wedi colli eu holl fedr.

28 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

29 gwnaeth i'r storm dawelu,ac aeth y tonnau'n ddistaw;

30 yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.

31 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

32 Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.

33 Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34 y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.

35 Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,a thir sych yn ffynhonnau.

36 Gwna i'r newynog fyw yno,a sefydlant ddinas i fyw ynddi;

37 heuant feysydd a phlannu gwinwydd,a chânt gnydau toreithiog.

38 Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau,ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.

39 Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwngtrwy orthrwm, helbul a gofid,

40 bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion,ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd.

41 Ond bydd yn codi'r tlawd o'i ofid,ac yn gwneud ei deulu fel praidd.

42 Bydd yr uniawn yn gweld ac yn llawenhau,ond pob un drygionus yn atal ei dafod.

43 Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i'r pethau hyn;bydded iddynt ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD.