Y Salmau 71 BCN

1 Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches;na fydded cywilydd arnaf byth.

2 Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi,tro dy glust ataf ac arbed fi.

3 Bydd yn graig noddfa i mi,yn amddiffynfa i'm cadw,oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.

4 O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus,o afael yr anghyfiawn a'r creulon.

5 Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.

6 Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth;ti a'm tynnodd allan o groth fy mam.Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.

7 Bûm fel pe'n rhybudd i lawer;ond ti yw fy noddfa gadarn.

8 Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliantac o'th ogoniant bob amser.

9 Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.

10 Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf,a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,

11 ac yn dweud, “Y mae Duw wedi ei adael;ewch ar ei ôl a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd.”

12 O Dduw, paid â phellhau oddi wrthyf;O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.

13 Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr,a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu.

14 Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad,ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy.

15 Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawndera'th weithredoedd achubol trwy'r amser,oherwydd ni wn eu nifer.

16 Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW;soniaf am dy gyfiawnder di yn unig.

17 O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid,ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;

18 a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn,O Dduw, paid â'm gadael,nes imi fynegi dy rymi'r cenedlaethau sy'n codi.

19 Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw,yn cyrraedd i'r uchelder,oherwydd iti wneud pethau mawr.O Dduw, pwy sydd fel tydi?

20 Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw,fydd yn fy adfywio drachefn;ac o ddyfnderau'r ddaearfe'm dygi i fyny unwaith eto.

21 Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd,ac yn troi i'm cysuro.

22 Byddaf finnau'n dy foliannu â'r nablam dy ffyddlondeb, O fy Nuw;byddaf yn canu i ti â'r delyn,O Sanct Israel.

23 Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen—oherwydd canaf i ti—a hefyd yr enaid a waredaist.

24 Bydd fy nhafod beunyddyn sôn am dy gyfiawnder;oherwydd daeth cywilydd a gwaradwyddar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu.