1 Molwch yr ARGLWYDD.Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd,molwch ef yn yr uchelderau.
2 Molwch ef, ei holl angylion;molwch ef, ei holl luoedd.
3 Molwch ef, haul a lleuad;molwch ef, yr holl sêr disglair.
4 Molwch ef, nef y nefoedd,a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.
5 Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;
6 fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd;rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
7 Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear,chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,
8 tân a chenllysg, eira a mwg,y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;
9 y mynyddoedd a'r holl fryniau,y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;
10 anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof,ymlusgiaid ac adar hedegog;
11 brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd,tywysogion a holl farnwyr y ddaear;
12 gwŷr ifainc a gwyryfon,hynafgwyr a llanciau hefyd.
13 Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig,ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.