Y Salmau 68 BCN

I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. Cân.

1 Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru,ac i'r rhai sy'n ei gasáu ffoi o'i flaen.

2 Fel y chwelir mwg, chwâl hwy;fel cwyr yn toddi o flaen tân,bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw.

3 Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau;y maent yn gorfoleddu gerbron Duwac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.

4 Canwch i Dduw, molwch ei enw,paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir;yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen.

5 Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwonyw Duw yn ei drigfan sanctaidd.

6 Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref,ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd;ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.

7 O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl,a gorymdeithio ar draws yr anialwch,Sela

8 crynodd y ddaear a glawiodd y nefoeddo flaen Duw, Duw Sinai,o flaen Duw, Duw Israel.

9 Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw,ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio;

10 cafodd dy braidd le i fyw ynddi,ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.

11 Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair,ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da

12 fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys;y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail—

13 er eu bod wedi aros ymysg y corlannau—y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian,a'i hesgyll yn aur melyn.

14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno,yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.

15 Mynydd cadarn yw Mynydd Basan,mynydd o gopaon yw Mynydd Basan.

16 O fynydd y copaon, pam yr edrychi'n eiddigeddusar y mynydd lle dewisodd Duw drigo,lle bydd yr ARGLWYDD yn trigo am byth?

17 Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil,yn filoedd ar filoedd,pan ddaeth yr Arglwydd o Sinai mewn sancteiddrwydd.

18 Aethost i fyny i'r uchelder gyda chaethion ar dy ôl,a derbyniaist anrhegion gan bobl,hyd yn oed gwrthryfelwyr,er mwyn i'r ARGLWYDD Dduw drigo yno.

19 Bendigedig yw'r Arglwydd,sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd;Duw yw ein hiachawdwriaeth.Sela

20 Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni;gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.

21 Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion,pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.

22 Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan,dof â hwy'n ôl o waelodion y môr,

23 er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed,ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.”

24 Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw,gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr—

25 y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.

26 Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.

27 Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain,a thyrfa tywysogion Jwda,tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.

28 O Dduw, dangos dy rym,y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.

29 O achos dy deml yn Jerwsalemdaw brenhinoedd ag anrhegion i ti.

30 Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd,y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl;sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian,gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.

31 Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft;brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.

32 Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear;rhowch foliant i'r Arglwydd,Sela

33 i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed.Clywch! Y mae'n llefaru â'i lais nerthol.

34 Cydnabyddwch nerth Duw;y mae ei ogoniant uwchben Israela'i rym yn y ffurfafen.

35 Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr;y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl.Bendigedig fyddo Duw.