1 Mor dda ac mor ddymunol ywi bobl fyw'n gytûn.
2 Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen,yn llifo i lawr dros y farf,dros farf Aaron,yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd.
3 Y mae fel gwlith Hermonyn disgyn i lawr ar fryniau Seion.Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith,bywyd hyd byth.