1 Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn,a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.
2 Yr oedd fy nhraed bron â baglu,a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,
3 am fy mod yn cenfigennu wrth y trahausac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.
4 Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;y mae eu cyrff yn iach a graenus.
5 Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.
6 Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,a thrais yn wisg amdanynt.
7 Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.
8 Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,yn sôn yn ffroenuchel am ormes.
9 Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.
10 Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt,ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.
11 Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”
12 Edrych, dyma hwy y rhai drygionus—bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.
13 Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn lân,a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog;
14 ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio,ac fe'm cosbir bob bore.
15 Pe buaswn wedi dweud, “Fel hyn y siaradaf”,buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant.
16 Ond pan geisiais ddeall hyn,yr oedd yn rhy anodd i mi,
17 nes imi fynd i gysegr Duw;yno y gwelais eu diwedd.
18 Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig,ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw.
19 Fe ânt i ddinistr ar amrantiad,fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd.
20 Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd;wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef.
21 Pan oedd fy nghalon yn chwerwa'm coluddion wedi eu trywanu,
22 yr oeddwn yn ddwl a diddeall,ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.
23 Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.
24 Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.
25 Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.
26 Er i'm calon a'm cnawd ballu,eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
27 Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.
28 Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw;yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi,er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.