1 Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder,y byd a'r rhai sy'n byw ynddo;
2 oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedda'i sefydlu ar yr afonydd.
3 Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDDa phwy a saif yn ei le sanctaidd?
4 Y glân ei ddwylo a'r pur o galon,yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwylla heb dyngu'n gelwyddog.
5 Fe dderbyn fendith gan yr ARGLWYDDa chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.
6 Dyma'r genhedlaeth sy'n ei geisio,sy'n ceisio wyneb Duw Jacob.Sela
7 Codwch eich pennau, O byrth!Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!i frenin y gogoniant ddod i mewn.
8 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn?Yr ARGLWYDD, cryf a chadarn,yr ARGLWYDD, cadarn mewn rhyfel.
9 Codwch eich pennau, O byrth!Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!i frenin y gogoniant ddod i mewn.
10 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y Lluoedd,ef yw brenin y gogoniant.Sela