1 O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di;y mae fy enaid yn sychedu amdanat,a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau,fel tir sych a diffaith heb ddŵr.
2 Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr,a gweld dy rym a'th ogoniant.
3 Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd;am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu.
4 Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes,ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw.
5 Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster,a moliannaf di â gwefusau llawen.
6 Pan gofiaf di ar fy ngwely,a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos—
7 fel y buost yn gymorth imi,ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd—
8 bydd fy enaid yn glynu wrthyt;a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
9 Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd,byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear;
10 fe'u tynghedir i fin y cleddyf,a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod.
11 Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw,a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu,oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog.