Y Salmau 118 BCN

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.

2 Dyweded Israel yn awr,“Y mae ei gariad hyd byth.”

3 Dyweded tŷ Aaron yn awr,“Y mae ei gariad hyd byth.”

4 Dyweded y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,“Y mae ei gariad hyd byth.”

5 O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD;atebodd yntau fi a'm rhyddhau.

6 Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf;beth a wna pobl i mi?

7 Y mae'r ARGLWYDD o'm tu i'm cynorthwyo,a gwelaf ddiwedd ar y rhai sy'n fy nghasáu.

8 Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried yn neb meidrol.

9 Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried mewn tywysogion.

10 Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

11 Daethant i'm hamgylchu ar bob tu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

12 Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn,a llosgi fel tân mewn drain;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

13 Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio,ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi.

14 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd.

15 Clywch gân gwaredigaethym mhebyll y rhai cyfiawn:“Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus;

16 y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi;y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus.”

17 Nid marw ond byw fyddaf,ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD.

18 Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym,ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth.

19 Agorwch byrth cyfiawnder i mi;dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.

20 Dyma borth yr ARGLWYDD;y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.

21 Diolchaf i ti am fy ngwrandoa dod yn waredigaeth i mi.

22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyra ddaeth yn brif gonglfaen.

23 Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn,ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.

24 Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

25 Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni;yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.

26 Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD.Bendithiwn chwi o dŷ'r ARGLWYDD.

27 Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi. changau ymunwch yn yr orymdaithhyd at gyrn yr allor.

28 Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti;fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di.