1 Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD,ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.
2 Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog,allan o'r mwd a'r baw;gosododd fy nhraed ar graig,a gwneud fy nghamau'n ddiogel.
3 Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd,cân o foliant i'n Duw;bydd llawer, pan welant hyn, yn ofniac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
4 Gwyn ei fyd y sawlsy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD,ac nad yw'n troi at y beilchion,nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
5 Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw,yw'r rhyfeddodau a wnaethost,a'th fwriadau ar ein cyfer;nid oes tebyg i ti!Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd,ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.
6 Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm—rhoddaist imi glustiau agored—ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.
7 Felly dywedais, “Dyma fi'n dod;y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf
8 fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw,a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”
9 Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr;nid wyf wedi atal fy ngwefusau,fel y gwyddost, O ARGLWYDD.
10 Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon,ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth;ni chelais dy gariad a'th wirioneddrhag y gynulleidfa fawr.
11 Paid tithau, ARGLWYDD, ag ataldy dosturi oddi wrthyf;bydded dy gariad a'th wirioneddyn fy nghadw bob amser.
12 Oherwydd y mae drygau dirifediwedi cau amdanaf;y mae fy nghamweddau wedi fy nalfel na allaf weld;y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen,ac y mae fy nghalon yn suddo.
13 Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD;O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
14 Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imigael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
15 Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnafgael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.
16 Ond bydded i bawb sy'n dy geisio dilawenhau a gorfoleddu ynot;bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaethddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.”
17 Un tlawd ac anghenus wyf fi,ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf.Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;fy Nuw, paid ag oedi!