1 Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;o ble y daw cymorth i mi?
2 Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,creawdwr nefoedd a daear.
3 Nid yw'n gadael i'th droed lithro,ac nid yw dy geidwad yn cysgu.
4 Nid yw ceidwad Israelyn cysgu nac yn huno.
5 Yr ARGLWYDD yw dy geidwad,yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;
6 ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd,na'r lleuad yn y nos.
7 Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg,bydd yn cadw dy einioes.
8 Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddodyn awr a hyd byth.