1 Dywed yr ynfyd yn ei galon,“Nid oes Duw.”Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd;nid oes un a wna ddaioni.
2 Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoeddar ddynolryw,i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoethac yn ceisio Duw.
3 Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,ac mor llygredig â'i gilydd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.
4 Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygionisy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5 Yno y byddant mewn dychryn mawr,dychryn na fu ei debyg.Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol;daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod.
6 O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.