1 Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder;i ti, ARGLWYDD, y pynciaf gerdd.
2 Rhof sylw i'r ffordd berffaith;pa bryd y deui ataf?Rhodiaf â chalon gywirymysg fy nhylwyth;
3 ni osodaf fy llygaidar ddim annheilwng.Cas gennyf yr un sy'n twyllo;nid oes a wnelwyf ddim ag ef.
4 Bydd y gwyrgam o galon yn troi oddi wrthyf,ac ni fyddaf yn cymdeithasu â'r drwg.
5 Pwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn ddirgel,rhof daw arno;y ffroenuchel a'r balch,ni allaf ei oddef.
6 Ond y mae fy llygaid ar ffyddloniaid y tir,iddynt gael trigo gyda mi;y sawl a rodia yn y ffordd berffaitha fydd yn fy ngwasanaethu.
7 Ni chaiff unrhyw un sy'n twyllodrigo yn fy nhŷ,nac unrhyw un sy'n dweud celwyddaros yn fy ngŵydd.
8 Fore ar ôl bore rhof dawar holl rai drygionus y wlad,a thorraf ymaith o ddinas yr ARGLWYDDyr holl wneuthurwyr drygioni.