Y Salmau 34 BCN

I Ddafydd, pan newidiodd ei wedd o flaen Abimelech, a chael ei yrru ymaith a mynd.

1 Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser;bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.

2 Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf;bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.

3 Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi,a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.

4 Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fia'm gwaredu o'm holl ofnau.

5 Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi,ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.

6 Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywedac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.

7 Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,ac y mae'n eu gwaredu.

8 Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.

9 Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

10 Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

11 Dewch, blant, gwrandewch arnaf,dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.

12 Pwy ohonoch sy'n dymuno bywydac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?

13 Cadw dy dafod rhag drygionia'th wefusau rhag llefaru celwydd.

14 Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda,ceisia heddwch a'i ddilyn.

15 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn,a'i glustiau'n agored i'w cri.

16 Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg,i ddileu eu coffa o'r ddaear.

17 Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDDa'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.

18 Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galonac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.

19 Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.

20 Ceidw ei holl esgyrn,ac ni thorrir yr un ohonynt.

21 Y mae adfyd yn lladd y drygionus,a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.

22 Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision,ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.