1 Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear.
2 Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw,cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.
3 Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
4 Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
5 Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
6 Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a gogoniant yn ei gysegr.
7 Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
8 rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.
9 Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd;crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.
10 Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin”;yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir;bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn.
11 Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear;rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
12 llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen