1 Pam, ARGLWYDD, y sefi draw,ac ymguddio yn amser cyfyngder?
2 Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus;dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.
3 Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.
4 Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.
5 Troellog yw ei ffyrdd bob amser,y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.
6 Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”
7 Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.
8 Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;gwylia ei lygaid am yr anffodus.
9 Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;llecha er mwyn llarpio'r truan,ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;
10 caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
11 Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”
12 Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;nac anghofia'r anghenus.
13 Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?
14 Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid,ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law;arnat ti y dibynna'r anffodus,ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.
15 Dryllia nerth y drygionus a'r anfad;chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.
16 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd;difethir y cenhedloedd o'i dir.
17 Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus;yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,
18 yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig,rhag i feidrolion beri ofn mwyach.