1 O ARGLWYDD fy Nuw, ynot ti y llochesaf;gwared fi rhag fy holl erlidwyr, ac arbed fi,
2 rhag iddynt fy llarpio fel llew,a'm darnio heb neb i'm gwaredu.
3 O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn—os oes twyll ar fy nwylo,
4 os telais ddrwg am dda i'm cyfaill,ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos—
5 bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal,bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear,a gosod f'anrhydedd yn y llwch.Sela
6 Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig;cyfod yn erbyn llid fy ngelynion;deffro, fy Nuw, i drefnu barn.
7 Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.
8 O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.
9 Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,ond cadarnha di y cyfiawn,ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,ti Dduw cyfiawn.
10 Duw yw fy nharian,ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.
11 Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12 Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;
13 y mae'n darparu ei arfau marwol,ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.
14 Y mae'n feichiog o ddrygioni,yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.
15 Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.
16 Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun,ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.
17 Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder,a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.