1 Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar ôl,a darfu am y ffyddloniaid o blith pobl.
2 Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog,y maent yn gwenieithio wrth siarad â'i gilydd.
3 Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithusa'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar,
4 y rhai sy'n dweud, “Yn ein tafod y mae ein nerth;y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?”
5 “Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd,codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD,“rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.”
6 Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur:arian wedi ei goethi mewn ffwrnais,aur wedi ei buro seithwaith.
7 Tithau, ARGLWYDD, cadw ni,gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon,
8 am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw,a llygredd yn uchaf ymysg pobl.