1 Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda,a'i enw'n fawr yn Israel;
2 y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem,a'i gartref yn Seion.
3 Yno fe faluriodd y saethau tanllyd,y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel.Sela
4 Ofnadwy wyt ti, a chryfachna'r mynyddoedd tragwyddol.
5 Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon,y maent wedi suddo i gwsg,a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.
6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob,syfrdanwyd y marchog a'r march.
7 Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaenpan fyddi'n ddig?
8 Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd;ofnodd y ddaear a distewi
9 pan gododd Duw i farnu,ac i waredu holl drueiniaid y ddaear.Sela
10 Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu,a gweddill Hamath yn cadw gŵyl i ti.
11 Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu;bydded i bawb o'i amgylch ddod â rhoddion i'r un ofnadwy.
12 Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion,ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.