Y Salmau 51 BCN

I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd, pan ddaeth y proffwyd Nathan ato wedi iddo fynd at Bathseba.

1 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb;yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau;

2 golch fi'n lân o'm drygioni,a glanha fi o'm pechod.

3 Oherwydd gwn am fy nhroseddau,ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi.

4 Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechaisa gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg,fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd,ac yn gywir yn dy farn.

5 Wele, mewn drygioni y'm ganwyd,ac mewn pechod y beichiogodd fy mam.

6 Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn;felly dysg imi ddoethineb yn y galon.

7 Pura fi ag isop fel y byddaf lân;golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.

8 Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd,fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau.

9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau,a dilea fy holl euogrwydd.

10 Crea galon lân ynof, O Dduw,rho ysbryd newydd cadarn ynof.

11 Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt,na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.

12 Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth,a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.

13 Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr,fel y dychwelo'r pechaduriaid atat.

14 Gwared fi rhag gwaed, O Dduw,Duw fy iachawdwriaeth,ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder.

15 Arglwydd, agor fy ngwefusau,a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant.

16 Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth;pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon.

17 Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig;calon ddrylliedig a churiedigni ddirmygi, O Dduw.

18 Gwna ddaioni i Seion yn dy ras;adeilada furiau Jerwsalem.

19 Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir—poethoffrwm ac aberth llosg—yna fe aberthir bustych ar dy allor.