Y Salmau 37 BCN

I Ddafydd.

1 Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

2 Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,a chrino fel glesni gwanwyn.

3 Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni,iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.

4 Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD,a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.

5 Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD;ymddiried ynddo, ac fe weithreda.

6 Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleunia'th uniondeb fel haul canol dydd.

7 Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD,aros yn amyneddgar amdano;paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo,y gŵr sy'n gwneud cynllwynion.

8 Paid â digio; rho'r gorau i lid;paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.

9 Oherwydd dinistrir y rhai drwg,ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.

10 Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus;er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.

11 Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tirac yn mwynhau heddwch llawn.

12 Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn,ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno;

13 ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben,oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod.

14 Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyfac yn plygu eu bwa,i ddarostwng y tlawd a'r anghenus,ac i ladd yr union ei gerddediad;

15 ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain,a thorrir eu bwâu.

16 Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawnna chyfoeth mawr y drygionus;

17 oherwydd torrir nerth y drygionus,ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn.

18 Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius,ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth.

19 Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg,a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.

20 Oherwydd fe dderfydd am y drygionus;bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân,pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.

21 Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl,ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.

22 Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir,ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.

23 Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius,y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad;

24 er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr,oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal â'i law.

25 Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen,ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael,na'i blant yn cardota am fara;

26 y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg,a'i blant yn fendith.

27 Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda,a chei gartref diogel am byth,

28 oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn,ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid;ond difethir yr anghyfiawn am byth,a thorrir ymaith blant y drygionus.

29 Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir,ac yn cartrefu ynddo am byth.

30 Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,a'i dafod yn mynegi barn;

31 y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon,ac nid yw ei gamau'n methu.

32 Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawnac yn ceisio cyfle i'w ladd;

33 ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law,nac yn caniatáu ei gondemnio pan fernir ef.

34 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd,ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir,a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.

35 Gwelais y drygionus yn ddidostur,yn taflu fel blaguryn iraidd;

36 ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono;er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.

37 Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn;oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon.

38 Difethir y gwrthryfelwyr i gyd,a dinistrir disgynyddion y drygionus.

39 Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD;ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.

40 Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed;bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub,am iddynt lochesu ynddo.