Y Salmau 69 BCN

I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. I Ddafydd.

1 Gwareda fi, O Dduw,oherwydd cododd y dyfroedd at fy ngwddf.

2 Yr wyf yn suddo mewn llaid dwfn,a heb le i sefyll arno;yr wyf wedi mynd i ddyfroedd dyfnion,ac y mae'r llifogydd yn fy sgubo ymaith.

3 Yr wyf wedi diffygio'n gweiddi, a'm gwddw'n sych;y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am fy Nuw.

4 Mwy niferus na gwallt fy mhenyw'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos;lluosocach na'm hesgyrnyw fy ngelynion twyllodrus.Sut y dychwelaf yr hyn nas cymerais?

5 O Dduw, gwyddost ti fy ffolineb,ac nid yw fy nhroseddau'n guddiedig oddi wrthyt.

6 Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid,O Arglwydd DDUW y Lluoedd,nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos,O Dduw Israel.

7 Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth,ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd.

8 Euthum yn ddieithryn i'm brodyr,ac yn estron i blant fy mam.

9 Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu,a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau.

10 Pan wylaf wrth ymprydio,fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;

11 pan wisgaf sachliain amdanaf,fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.

12 Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.

13 Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.Ar yr amser priodol, O Dduw,ateb fi yn dy gariad mawrgyda'th waredigaeth sicr.

14 Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.

15 Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,na'r dyfnder fy llyncu,na'r pwll gau ei safn amdanaf.

16 Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;yn dy drugaredd mawr, tro ataf.

17 Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.

18 Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu;rhyddha fi o achos fy ngelynion.

19 Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,fy ngwarth a'm cywilydd;yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.

20 Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,ac yr wyf mewn anobaith;disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.

21 Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,a gwneud imi yfed finegr at fy syched.

22 Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,yn fagl i'w cyfeillion.

23 Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld,a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus.

24 Tywallt dy ddicter arnynt,a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.

25 Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd,heb neb yn byw yn eu pebyll,

26 oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.

27 Rho iddynt gosb ar ben cosb;na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.

28 Dileer hwy o lyfr y rhai byw,ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.

29 Yr wyf fi mewn gofid a phoen;trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.

30 Moliannaf enw Duw ar gân,mawrygaf ef â diolchgarwch.

31 Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych,neu fustach ifanc â chyrn a charnau.

32 Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau;chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio;

33 oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus,ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.

34 Bydded i'r nefoedd a'r ddaear ei foliannu,y môr hefyd a phopeth byw sydd ynddo.

35 Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion,ac yn ailadeiladu dinasoedd Jwda;byddant yn byw yno ac yn ei meddiannu,

36 bydd plant ei weision yn ei hetifeddu,a'r rhai sy'n caru ei enw'n byw yno.