Y Salmau 49 BCN

I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.

1 Clywch hyn, yr holl bobloedd,gwrandewch, holl drigolion byd,

2 yn wreng a bonedd,yn gyfoethog a thlawd.

3 Llefara fy ngenau ddoethineb,a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.

4 Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb,a datgelaf fy nychymyg â'r delyn.

5 Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd,pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,

6 rhai sy'n ymddiried yn eu goludac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?

7 Yn wir, ni all neb ei waredu ei hunna thalu iawn i Dduw—

8 oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd,ac ni all byth ei gyrraedd—

9 iddo gael byw am bytha pheidio â gweld Pwll Distryw.

10 Ond gwêl fod y doethion yn marw,fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi,ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.

11 Eu bedd yw eu cartref bythol,eu trigfan dros y cenedlaethau,er iddynt gael tiroedd i'w henwau.

12 Ni all neb aros mewn rhwysg;y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.

13 Dyma yw tynged yr ynfyd,a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau.Sela

14 Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol;angau fydd yn eu bugeilio;disgynnant yn syth i'r bedd,a bydd eu ffurf yn darfod;Sheol fydd eu cartref.

15 Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywydac yn fy nghymryd o afael Sheol.Sela

16 Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethoga phan gynydda golud ei dŷ,

17 oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw,ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.

18 Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd,a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,

19 fe â at genhedlaeth ei hynafiaid,ac ni wêl oleuni byth mwy.

20 Ni all neb aros mewn rhwysg;y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.