Y Salmau 66 BCN

I'r Cyfarwyddwr: Cân. Salm.

1 Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;

2 canwch i ogoniant ei enw;rhowch iddo foliant gogoneddus.

3 Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy yw dy weithredoedd!Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;

4 y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen,ac yn canu mawl i ti,yn canu mawl i'th enw.”Sela

5 Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw—y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl—

6 trodd y môr yn sychdir,aethant ar droed trwy'r afon;yno y llawenychwn ynddo.

7 Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth,a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd;na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn!Sela

8 Bendithiwch ein Duw, O bobloedd,a seiniwch ei fawl yn glywadwy.

9 Ef a roes le i ni ymysg y byw,ac ni adawodd i'n troed lithro.

10 Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw,ac yn ein coethi fel arian.

11 Dygaist ni i'r rhwyd,rhoist rwymau amdanom,

12 gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,aethom trwy dân a dyfroedd;ond dygaist ni allan i ryddid.

13 Dof i'th deml â phoethoffrymau,talaf i ti fy addunedau,

14 a wneuthum â'm gwefusauac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

15 Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,a hefyd hyrddod yn arogldarth;darparaf ychen a bychod geifr.Sela

16 Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.

17 Gwaeddais arno â'm genau,ac yr oedd moliant ar fy nhafod.

18 Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon,ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;

19 ond yn wir, gwrandawodd Duw,a rhoes sylw i lef fy ngweddi.

20 Bendigedig fyddo Duwam na throdd fy ngweddi oddi wrtho,na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.