1 Molwch yr ARGLWYDD.Diolchaf i'r ARGLWYDD â'm holl galonyng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.
2 Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD,fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3 Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith,a saif ei gyfiawnder am byth.
4 Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau;graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.
5 Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni,ac yn cofio ei gyfamod am byth.
6 Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoeddtrwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn,a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;
8 y maent wedi eu sefydlu hyd byth,ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.
9 Rhoes waredigaeth i'w bobl,a gorchymyn ei gyfamod dros byth.Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.