Y Salmau 109 BCN

I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.

1 O Dduw fy moliant, paid â thewi.

2 Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn,a llefaru wrthyf â thafod celwyddog,

3 a'm hamgylchu â geiriau casineb,ac ymosod arnaf heb achos.

4 Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant,a minnau'n gweddïo drostynt.

5 Talasant imi ddrwg am dda,a chasineb am gariad.

6 Apwyntier un drwg yn ei erbyn,a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.

7 Pan fernir ef, caffer ef yn euog,ac ystyrier ei weddi'n bechod.

8 Bydded ei ddyddiau'n ychydig,a chymered arall ei swydd;

9 bydded ei blant yn amddifada'i wraig yn weddw.

10 Crwydred ei blant i gardota—wedi eu troi allan o'u hadfeilion.

11 Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,a dyged estroniaid ei enillion.

12 Na fydded i neb drugarhau wrtho,na gwneud ffafr â'i blant amddifad.

13 Torrer ymaith ei linach,a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.

14 Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD,ac na ddileer pechodau ei fam.

15 Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad,a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.

16 Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon,ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd,a'r drylliedig o galon hyd angau.

17 Carodd felltithio: doed melltith arno yntau.Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau.

18 Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn;suddodd i'w gnawd fel dŵr,ac fel olew i'w esgyrn.

19 Bydded fel y dillad a wisga,ac fel y gwregys sydd amdano bob amser.

20 Hyn fyddo tâl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr,sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.

21 Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,gweithreda drosof er mwyn dy enw;oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.

22 Yr wyf yn druan a thlawd,a'm calon mewn gwewyr ynof.

23 Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;fe'm gyrrir ymaith fel locust.

24 Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25 Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

26 Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,achub fi yn ôl dy drugaredd,

27 a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

28 Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.

29 Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.

30 Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.

31 Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd,i'w achub rhag ei gyhuddwyr.