1 Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD,rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
2 Down i'w bresenoldeb â diolch,gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
3 Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4 Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.
5 Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
6 Dewch, addolwn ac ymgrymwn,plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
7 Oherwydd ef yw ein Duw,a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa;heddiw cewch wybod ei rym,os gwrandewch ar ei lais.
8 Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba,fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,
9 pan fu i'ch hynafiaid fy herioa'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.
10 Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno,a dweud, “Pobl â'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt,ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.”