1 Molwch yr ARGLWYDD.Molwch, chwi weision yr ARGLWYDD,molwch enw'r ARGLWYDD.
2 Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDDo hyn allan a hyd byth.
3 O godiad haul hyd ei fachludbydded enw'r ARGLWYDD yn foliannus.
4 Uchel yw'r ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd,a'i ogoniant goruwch y nefoedd.
5 Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duwyn y nefoedd neu ar y ddaear,
6 yn gosod ei orseddfainc yn uchela hefyd yn ymostwng i edrych yn isel?
7 Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwchac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,
8 i'w gosod gyda phendefigion,gyda phendefigion ei bobl.