1 O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,a'th gyfiawnder i fab y brenin.
2 Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,a'th rai anghenus yn gywir.
3 Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,a'r bryniau â chyfiawnder.
4 Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,a gwaredu'r rhai anghenus,a dryllio'r gorthrymwr.
5 Bydded iddo fyw tra bo haula chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.
6 Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.
7 Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.
8 Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
9 Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.
10 Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoeddddod ag anrhegion iddo,ac i frenhinoedd Sheba a Sebagyflwyno eu teyrnged.
11 Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.
12 Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.
13 Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,ac yn gwaredu bywyd y tlodion.
14 Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
15 Hir oes fo iddo,a rhodder iddo aur o Sheba;aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad,a chaffed ei fendithio bob amser.
16 Bydded digonedd o ŷd yn y wlad,yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd;a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon,a'i rawn fel gwellt y maes.
17 Bydded ei enw'n aros hyd byth,ac yn para cyhyd â'r haul;a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddoac yn ei alw'n fendigedig.
18 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel;ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau.
19 Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth,a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.Amen ac Amen.
20 Diwedd gweddïau Dafydd fab Jesse.