1 Dywedais, “Gwyliaf fy ffyrdd,rhag imi bechu â'm tafod;rhof ffrwyn ar fy ngenau,pan fo'r drygionus yn f'ymyl.”
2 Bûm yn fud a distaw,cedwais yn dawel, ond i ddim diben;gwaethygodd fy mhoen,
3 llosgodd fy nghalon o'm mewn;wrth imi fyfyrio, cyneuodd tâna thorrais allan i ddweud,
4 “ARGLWYDD, pâr imi wybod fy niwedd,a beth yw nifer fy nyddiau;dangos imi mor feidrol ydwyf.
5 Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd,ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg;yn wir, chwa o wynt yw pob un byw,Sela
6 “ac y mae'n mynd a dod fel cysgod;yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra,ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.
7 “Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?Y mae fy ngobaith ynot ti.
8 Gwared fi o'm holl droseddau,paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.
9 Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.
10 Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.
11 Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;yn wir, chwa o wynt yw pawb.Sela
12 “Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD,a rho glust i'm cri;paid â diystyru fy nagrau.Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf,a phererin fel fy holl hynafiaid.
13 Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenyddcyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr.”