1 Dyrchafaf di, O ARGLWYDD, am iti fy ngwaredu,a pheidio â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
2 O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iacháu.
3 O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol,a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
4 Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid,a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd.
5 Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes;os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
6 Yn fy hawddfyd fe ddywedwn,“Ni'm symudir byth.”
7 Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn,ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi.
8 Gelwais arnat ti, ARGLWYDD,ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd:
9 “Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll?A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd?
10 Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf; ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.”
11 Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns,wedi datod fy sachliain a'm gwisgo â llawenydd,
12 er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid.O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth!