1 Ar fynyddoedd sanctaidd y sylfaenodd hi;
2 y mae'r ARGLWYDD yn caru pyrth Seionyn fwy na holl drigfannau Jacob.
3 Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti,O ddinas Duw.Sela
4 “Yr wyf yn enwi Rahab a Babilonymysg y rhai sy'n fy nghydnabod;am Philistia, Tyrus ac Ethiopiafe ddywedir, ‘Ganwyd hwy yno’.”
5 Ac fe ddywedir am Seion,“Ganwyd hwn-a-hwn ynddi;y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi.”
6 Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu,“Ganwyd hwy yno.”Sela
7 Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud,“Y mae fy holl darddiadau ynot ti.”