1 Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti;y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau.
2 Manteisiaf ar yr amser penodedig,ac yna barnaf yn gywir.
3 Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion,myfi sy'n cynnal ei cholofnau.Sela
4 Dywedaf wrth yr ymffrostgar, “Peidiwch ag ymffrostio”,ac wrth y drygionus, “Peidiwch â chodi'ch corn;
5 peidiwch â chodi'ch corn yn uchelna siarad yn haerllug wrth eich Craig.”
6 Nid o'r dwyrain na'r gorllewinnac o'r anialwch y bydd dyrchafu,
7 ond Duw fydd yn barnu—yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.
8 Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD,a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu;fe dywallt ddiod ohono,a bydd holl rai drygionus y ddaearyn ei yfed i'r gwaelod.
9 Ond clodforaf fi am byth,a chanaf fawl i Dduw Jacob,
10 am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus,a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.