1 Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD,ystyria fy nghwynfan;
2 clyw fy nghri am gymorth,fy Mrenin a'm Duw.
3 Arnat ti y gweddïaf, ARGLWYDD;yn y bore fe glywi fy llais.Yn y bore paratoaf ar dy gyfer,ac fe ddisgwyliaf.
4 Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni,ni chaiff y drwg aros gyda thi,
5 ni all y trahaus sefyll o'th flaen.Yr wyt yn casáu'r holl wneuthurwyr drygioni
6 ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd;ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus.
7 Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ,plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.
8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion,gwna dy ffordd yn union o'm blaen.
9 Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau,y mae dinistr o'u mewn;bedd agored yw eu llwnc,a'u tafod yn llawn gweniaith.
10 Dwg gosb arnynt, O Dduw,bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodauam iddynt wrthryfela yn dy erbyn.
11 Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,a chanu mewn llawenydd yn wastad;bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.
12 Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.