Y Salmau 136 BCN

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

2 Diolchwch i Dduw y duwiau,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

3 Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

4 Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

5 gwnaeth y nefoedd mewn doethineb,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

6 taenodd y ddaear dros y dyfroedd,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

7 gwnaeth oleuadau mawrion,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

8 yr haul i reoli'r dydd,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

9 y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

10 Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

11 a daeth ag Israel allan o'u canol,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

12 â llaw gref ac â braich estynedig,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

13 Holltodd y Môr Coch yn ddau,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

14 a dygodd Israel trwy ei ganol,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

15 ond taflodd Pharo a'i lu i'r Môr Coch,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

16 Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

17 a tharo brenhinoedd mawrion,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

18 Lladdodd frenhinoedd cryfion,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

19 Sihon brenin yr Amoriaid,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

20 Og brenin Basan,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

21 rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

22 yn etifeddiaeth i'w was Israel,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

23 Pan oeddem wedi'n darostwng, fe'n cofiodd,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

24 a'n gwaredu oddi wrth ein gelynion,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

25 Ef sy'n rhoi bwyd i bob creadur,oherwydd mae ei gariad hyd byth.