1 O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu;buost yn ddicllon. Adfer ni!
2 Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist;trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian.
3 Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw,a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.
4 Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,iddynt ffoi ati rhag y bwa.Sela
5 Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
6 Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem
7 a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;eiddof fi yw Gilead a Manasse,Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;
8 Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?
10 Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?
11 Rho inni gymorth rhag y gelyn,oherwydd ofer yw ymwared dynol.
12 Gyda Duw fe wnawn wrhydri;ef fydd yn sathru ein gelynion.