1 Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno;achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn,
2 cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionusa rhag dichell gwneuthurwyr drygioni—
3 rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf,ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,
4 i saethu'r dieuog o'r dirgel,i saethu'n sydyn a di-ofn.
5 Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg,ac yn sôn am osod maglau o'r golwg,a dweud, “Pwy all ein gweld?”
6 Y maent yn dyfeisio drygioni,ac yn cuddio'u dyfeisiadau;y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!
7 Ond bydd Duw'n eu saethu â'i saeth;yn sydyn y daw eu cwymp.
8 Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod,a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.
9 Daw ofn ar bawb,a byddant yn adrodd am waith Duw,ac yn deall yr hyn a wnaeth.
10 Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD,a llochesu ynddo,a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.