1 Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog,felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.
2 Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw;pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?
3 Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos,pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?”
4 Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn—fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduwyng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.
5 Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,ac mor gythryblus o'm mewn!Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,fy Ngwaredydd a'm Duw.
6 Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof;am hynny, meddyliaf amdanat tio dir yr Iorddonen a Hermonac o Fynydd Misar.
7 Geilw dyfnder ar ddyfnderyn sŵn dy raeadrau;y mae dy fôr a'th donnauwedi llifo trosof.
8 Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,a liw nos y mae ei gân gyda mi,gweddi ar Dduw fy mywyd.
9 Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig,“Pam yr anghofiaist fi?Pam y rhodiaf mewn galar,wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?”
10 Fel pe'n dryllio fy esgyrn,y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio,ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd,“Ple mae dy Dduw?”