Y Salmau 139 BCN

I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.

1 ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.

2 Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;

3 yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.

4 Oherwydd nid oes air ar fy nhafodheb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.

5 Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,ac wedi gosod dy law drosof.

6 Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.

7 I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?

8 Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno;os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.

9 Os cymeraf adenydd y wawra thrigo ym mhellafoedd y môr,

10 yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.

11 Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio,a'r nos yn cau amdanaf”,

12 eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti;y mae'r nos yn goleuo fel dydd,a'r un yw tywyllwch a goleuni.

13 Ti a greodd fy ymysgaroedd,a'm llunio yng nghroth fy mam.

14 Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.Yr wyt yn fy adnabod mor dda;

15 ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthytpan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.

16 Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;cafodd fy nyddiau eu ffurfiopan nad oedd yr un ohonynt.

17 Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,ac mor lluosog eu nifer!

18 Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.

19 Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—

20 y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.

21 Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?

22 Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith,ac y maent fel gelynion i mi.

23 Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon;profa fi, iti ddeall fy meddyliau.

24 Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi,ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.