1 Da yw moliannu'r ARGLWYDD,a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf,
2 a chyhoeddi dy gariad yn y borea'th ffyddlondeb bob nos,
3 gyda'r dectant a'r nabla chyda chordiau'r delyn.
4 Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu â'th waith;yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo.
5 Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD,a dwfn iawn dy feddyliau!
6 Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod,a ffŵl yw'r un sydd heb ddeall hyn:
7 er i'r annuwiol dyfu fel glaswelltac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo,eu bod i'w dinistrio am byth,
8 ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.
9 Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD,wele, dy elynion a ddifethir,a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.
10 Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych,ac eneiniaist fi ag olew croyw.
11 Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion,a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.
12 Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd,ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.
13 Y maent wedi eu plannu yn nhŷ'r ARGLWYDD,ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.
14 Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint,a pharhânt yn wyrdd ac iraidd.