1 O ARGLWYDD, cofia am Ddafyddyn ei holl dreialon,
2 fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDDac addunedu i Un Cadarn Jacob,
3 “Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi,nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno;
4 ni roddaf gwsg i'm llygaidna hun i'm hamrannau,
5 nes imi gael lle i'r ARGLWYDDa thrigfan i Un Cadarn Jacob.”
6 Wele, clywsom amdani yn Effrata,a chawsom hi ym meysydd y coed.
7 “Awn i mewn i'w drigfana phlygwn wrth ei droedfainc.
8 Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa,ti ac arch dy nerth.
9 Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo â chyfiawnder,a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu.”
10 Er mwyn Dafydd dy was,paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.
11 Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafyddadduned sicr na thry oddi wrthi:“O ffrwyth dy gorffy gosodaf un ar dy orsedd.
12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod,a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt,bydd eu meibion hwythau hyd bythyn eistedd ar dy orsedd.”
13 Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion,a'i chwennych yn drigfan iddo:
14 “Dyma fy ngorffwysfa am byth;yma y trigaf am imi ei dewis.
15 Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,a digonaf ei thlodion â bara.
16 Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth,a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.
17 Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd;darperais lamp i'm heneiniog.
18 Gwisgaf ei elynion â chywilydd,ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair.”