1 Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgua'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer?
2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod,a'r llywodraethwyr yn ymgynghori â'i gilyddyn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog:
3 “Gadewch inni ddryllio eu rhwymau,a thaflu ymaith eu rheffynnau.”
4 Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd;y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar.
5 Yna fe lefara wrthynt yn ei lida'u dychryn yn ei ddicter:
6 “Yr wyf fi wedi gosod fy mreninar Seion, fy mynydd sanctaidd.”
7 Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD.Dywedodd wrthyf, “Fy mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw;
8 gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth,ac eithafoedd daear yn eiddo iti;
9 fe'u drylli â gwialen haearna'u malurio fel llestr pridd.”
10 Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth;farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor;
11 gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn,mewn cryndod cusanwch ei draed,
12 rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha;oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim.Gwyn eu byd y rhai sy'n llochesu ynddo.