1 Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder,ac i enw Duw Jacob dy amddiffyn.
2 Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr,a'th gynnal o Seion.
3 Bydded iddo gofio dy holl offrymau,ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau.Sela
4 Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad,a chyflawni dy holl gynlluniau.
5 Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth,a chodi banerau yn enw ein Duw.Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi.
6 Yn awr fe wnfod yr ARGLWYDD yn gwaredu ei eneiniog;y mae'n ei ateb o'i nefoedd sanctaiddtrwy waredu'n nerthol â'i ddeheulaw.
7 Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch,ond fe ymffrostiwn ni yn enw'r ARGLWYDD ein Duw.
8 Y maent hwy'n crynu ac yn syrthio,ond yr ydym ni'n codi ac yn sefyll i fyny.
9 O ARGLWYDD, gwareda'r brenin;ateb ni pan fyddwn yn galw.