Y Salmau 33 BCN

1 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn;i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.

2 Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn,canwch salmau iddo â'r offeryn dectant;

3 canwch iddo gân newydd,tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.

4 Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.

5 Y mae'n caru cyfiawnder a barn;y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.

6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,a'i holl lu trwy anadl ei enau.

7 Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.

8 Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.

9 Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu;gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.

10 Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim,a difetha gynlluniau pobloedd.

11 Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.

12 Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.

13 Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,ac yn gweld pawb oll;

14 o'r lle y triga y mae'n gwylioholl drigolion y ddaear.

15 Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt,y mae'n deall popeth a wnânt.

16 Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin,ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr.

17 Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth;er ei holl gryfder ni all roi ymwared.

18 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna,ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,

19 i'w gwaredu rhag marwolaetha'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.

20 Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD;ef yw ein cymorth a'n tarian.

21 Y mae ein calon yn llawenychu ynddoam inni ymddiried yn ei enw sanctaidd.

22 O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom,fel yr ydym wedi gobeithio ynot.