Y Salmau 80 BCN

I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. Tystiolaeth. I Asaff. Salm.

1 Gwrando, O fugail Israel,sy'n arwain Joseff fel diadell.

2 Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid,disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse.Gwna i'th nerth gyffroi,a thyrd i'n gwaredu.

3 Adfer ni, O Dduw;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

4 O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl?

5 Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau,a'u diodi â mesur llawn o ddagrau.

6 Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion,ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.

7 O Dduw'r Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

8 Daethost â gwinwydden o'r Aifft;gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;

9 cliriaist y tir iddi;magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.

10 Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd,a'i changau fel y cedrwydd cryfion;

11 estynnodd ei brigau at y môr,a'i blagur at yr afon.

12 Pam felly y bylchaist ei chloddiau,fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?

13 Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.

14 O Dduw'r Lluoedd, tro eto,edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl,gofala am y winwydden hon,

15 y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw,y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.

16 Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawrgael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.

17 Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw,ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.

18 Ni thrown oddi wrthyt mwyach;adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.

19 ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.