1 Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd,ac y cuddiwyd ei bechod.
2 Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDDyn cyfrif ei fai yn ei erbyn,ac nad oes dichell yn ei ysbryd.
3 Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod,a minnau'n cwyno ar hyd y dydd.
4 Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos;sychwyd fy nerth fel gan wres haf.Sela
5 Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt,a pheidio â chuddio fy nrygioni;dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”;a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod.Sela
6 Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat tiyn nydd cyfyngder,a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr,ni fyddant yn cyrraedd ato ef.
7 Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder;amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth.Sela
8 Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri;fe gadwaf fy ngolwg arnat.
9 Paid â bod fel march neu ful direswmy mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dônt atat.
10 Daw poenau lawer i'r drygionus;ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD,bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.