Y Salmau 88 BCN

Cân. Salm. I feibion Cora. I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath Leannoth. Mascîl. I Heman yr Esrahead.

1 O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth,liw dydd galwaf arnat,gyda'r nos deuaf atat.

2 Doed fy ngweddi hyd atat,tro dy glust at fy llef.

3 Yr wyf yn llawn helbulon,ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol.

4 Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,ac euthum fel un heb nerth,

5 fel un wedi ei adael gyda'r meirw,fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd—rhai nad wyt yn eu cofio bellacham eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael.

6 Gosodaist fi yn y pwll isod,yn y mannau tywyll a'r dyfnderau.

7 Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf,a llethaist fi â'th holl donnau.Sela

8 Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;

9 y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.

10 A wnei di ryfeddodau i'r meirw?A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?Sela

11 A fynegir dy gariad yn y bedd,a'th wirionedd yn nhir Abadon?

12 A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?

13 Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD,ac yn y bore daw fy ngweddi atat.

14 O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod,ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf?

15 Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid;dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch.

16 Aeth dy ddigofaint drosof,ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha.

17 Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd,ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf.

18 Gwnaethost i gâr a chyfaill bellhau oddi wrthyf,a thywyllwch yw fy nghydnabod.