1 Gwaeddais yn uchel ar Dduw,yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.
2 Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd,ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino;nid oedd cysuro ar fy enaid.
3 Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno;pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd.Sela
4 Cedwaist fy llygaid rhag cau;fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.
5 Af yn ôl i'r dyddiau gynta chofio am y blynyddoedd a fu;
6 meddyliaf ynof fy hun yn y nos,myfyriaf, a'm holi fy hunan,
7 “A wrthyd yr Arglwydd am byth,a pheidio â gwneud ffafr mwyach?
8 A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?
9 A yw Duw wedi anghofio trugarhau?A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”Sela
10 Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”
11 “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,a chofio am dy ryfeddodau gynt.
12 Meddyliaf am dy holl waith,a myfyriaf am dy weithredoedd.
13 O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?
14 Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.
15 Â'th fraich gwaredaist dy bobl,disgynyddion Jacob a Joseff.Sela
16 “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.
17 Tywalltodd y cymylau ddŵr,ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;fflachiodd dy saethau ar bob llaw.
18 Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,goleuodd dy fellt y byd;ysgydwodd y ddaear a chrynu.
19 Aeth dy ffordd drwy'r môr,a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol;ond ni welwyd ôl dy gamau.
20 Arweiniaist dy bobl fel praidd,trwy law Moses ac Aaron.”