16 Digonir y coedydd cryfion,y cedrwydd Lebanon a blannwyd,
17 lle mae'r adar yn nythu,a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.
18 Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
19 Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,ac i'r haul wybod pryd i fachlud.
20 Trefnaist dywyllwch, fel bod nos,a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,
21 gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth,ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.
22 Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.